Mila Rodino

Anthem genedlaethol Bwlgaria ers 1964 yw Mila Rodino (Bwlgareg: Мила Родино) ("Mamwlad annwyl"). Seiliwyd ar gerddoriaeth a geiriau'r gân Gorda stara planina, a gyfansoddwyd gan Tsvetan Radoslavov yn ystod y rhyfel rhwng Bwlgaria a Serbia yn 1885. Mae'r geiriau wed cael eu newid niwer o weithiau, y tro diwethaf yn 1990. Rhwng 1886 a 1944, anthem genedlaethol Bwlgaria oedd Shumi Maritsa.


© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search